NEUADD BENTREF RHYD-Y-MAIN VILLAGE HALL
Neuadd Rhyd-y-main © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Croeso i Neuadd Bentref Rhyd-y-main Mae hanes Neuadd Rhyd-y-main yn mynd yn ôl i bumdegau’r ganrif ddiwethaf. Ar y pryd, cynhelid gweithgareddau’r ardal yn yr hen ‘sianti’, strwythur sinc a brynwyd yn dilyn y rhyfel er budd yr ardal gan y diweddar Hugh Evans, Hengwrt, o wersyll milwrol Bron Aber. Safai’r sianti nid nepell o safle’r lloches bws sydd wrth yr ysgol heddiw. Ond fis Hydref 1959, cynhaliwyd cyfarfod i drafod priodoldeb codi neuadd newydd a phenderfynwyd gwneud hynny ar dir a gafwyd yn rhad drwy garedigrwydd y diweddar John Hughes, Y Felin Newydd. Sicrhawyd grant o £4,427 gan y Weinyddiaeth Addysg, sef hanner cost y gwaith adeiladu a’r costau dodrefnu. Bu’n rhaid i’r ardalwyr godi’r swm cyfatebol a gwnaed hynny drwy drefnu casgliad o dŷ i dŷ yn yr ardal ac anfon llythyr apêl at gyfeillion a oedd â chysylltiad agos â’r ardal, a thrwy gynnal bob math o weithgareddau. Mae arnom ddyled fawr i’r pwyllgor gwreiddiol hwnnw a weithiodd mor ddygn i “sicrhau neuadd deilwng i wasanaethu’r ardal am gyfnod hir” (gweler llun aelodau’r pwyllgor gwreiddiol a’u henwau). Yn ogystal â chasglu’r arian, torchodd nifer o’r pwyllgor eu llewys yn llythrennol a mynd ati i baratoi’r safle gan ddefnyddio peiriannau a gafwyd ar fenthyg gan amrywiol fusnesau, yn cynnwys y Comisiwn Coedwigo. Roedd geiriau R. Williams Parry i Neuadd Mynytho, sef “cyd-ddyheu a’i cododd hi”, yr un mor berthnasol i Neuadd Rhyd-y-main. Erbyn 1962, roedd y neuadd ar ei thraed ac ar y 18fed o Fai’r flwyddyn ganlynol, fe’i hagorwyd yn swyddogol gan T. W. Jones, yr Aelod Seneddol ar y pryd, a chynhaliwyd cyngerdd dathlu gyda’r nos. Byth ers hynny, bu’r neuadd yn fwrlwm o weithgareddau, a’r gobaith yw bod dyhead y pwyllgor gwreiddiol wedi’i wireddu, sef “gweld eu hymdrechion yn foddion i gadw’n fyw y Gymdeithas Gymraeg yr ymfalchïent ynddi”. Os hoffech ddarllen yr hanes mewn mwy o fanylder, trowch at ddwy daflen ddifyr a argraffwyd gan y pwyllgor gwreiddiol: Hanes Codi’r Neuadd ac Agoriad Swyddogol y Neuadd. “Yn addas ar fin Eiddon, Rhin a ddaw o’r Neuadd hon.”
Pwyllgor Neuadd Rhyd-y-main, 1962 O'r chwith i'r dde: Richard Owen Parry, Llwynffynnon, Doleen Roberts, Werngawr, Morfydd Edwards, Pantclyd, Evan Jones, Traian, Martin Williams, Penrhiw (Cadeirydd), H. R. Jones, Llysmadian, John Glynmor James, Hywel Dda (Trysorydd), Catherine Williams, Pantypanel, Lloyd Davies, Bod Eiddon, Mary Williams, Coed Mwsoglog, Owen Gwilym Griffith, Forest Lodge, Hughie Williams, Pantypanel, Thomas Edwards, Cae Coch, Owen Owens, Troed-y-rhiw, Fred Selleck, Rhes Meirion, Ieuan Evans, Trem Aran (Ysgrifennydd)

Croeso i Neuadd Bentref

Rhydymain

Mae hanes Neuadd Rhyd-y-main yn mynd yn ôl i bumdegau’r ganrif ddiwethaf. Ar y pryd, cynhelid gweithgareddau’r ardal yn yr hen ‘sianti’, strwythur sinc a brynwyd yn dilyn y rhyfel er budd yr ardal gan y diweddar Hugh Evans, Hengwrt, o wersyll milwrol Bron Aber. Safai’r sianti nid nepell o safle’r lloches bws sydd wrth yr ysgol heddiw. Ond fis Hydref 1959, cynhaliwyd cyfarfod i drafod priodoldeb codi neuadd newydd a phenderfynwyd gwneud hynny ar dir a gafwyd yn rhad drwy garedigrwydd y diweddar John Hughes, Y Felin Newydd. Sicrhawyd grant o £4,427 gan y Weinyddiaeth Addysg, sef hanner cost y gwaith adeiladu a’r costau dodrefnu. Bu’n rhaid i’r ardalwyr godi’r swm cyfatebol a gwnaed hynny drwy drefnu casgliad o dŷ i dŷ yn yr ardal ac anfon llythyr apêl at gyfeillion a oedd â chysylltiad agos â’r ardal, a thrwy gynnal bob math o weithgareddau. Mae arnom ddyled fawr i’r pwyllgor gwreiddiol hwnnw a weithiodd mor ddygn i “sicrhau neuadd deilwng i wasanaethu’r ardal am gyfnod hir” (gweler llun aelodau’r pwyllgor gwreiddiol a’u henwau). Yn ogystal â chasglu’r arian, torchodd nifer o’r pwyllgor eu llewys yn llythrennol a mynd ati i baratoi’r safle gan ddefnyddio peiriannau a gafwyd ar fenthyg gan amrywiol fusnesau, yn cynnwys y Comisiwn Coedwigo. Roedd geiriau R. Williams Parry i Neuadd Mynytho, sef “cyd-ddyheu a’i cododd hi”, yr un mor berthnasol i Neuadd Rhyd-y- main. Erbyn 1962, roedd y neuadd ar ei thraed ac ar y 18fed o Fai’r flwyddyn ganlynol, fe’i hagorwyd yn swyddogol gan T. W. Jones, yr Aelod Seneddol ar y pryd, a chynhaliwyd cyngerdd dathlu gyda’r nos. Byth ers hynny, bu’r neuadd yn fwrlwm o weithgareddau, a’r gobaith yw bod dyhead y pwyllgor gwreiddiol wedi’i wireddu, sef “gweld eu hymdrechion yn foddion i gadw’n fyw y Gymdeithas Gymraeg yr ymfalchïent ynddi”. Os hoffech ddarllen yr hanes mewn mwy o fanylder, trowch at ddwy daflen ddifyr a argraffwyd gan y pwyllgor gwreiddiol: Hanes Codi’r Neuadd ac Agoriad Swyddogol y Neuadd. “Yn addas ar fin Eiddon, Rhin a ddaw o’r Neuadd hon.”
Neuadd Rhyd-y-main © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
NEUADD BENTREF RHYD-Y-MAIN VILLAGE HALL
Pwyllgor Neuadd Rhyd-y-main, 1962 O'r chwith i'r dde: Richard Owen Parry, Llwynffynnon, Doleen Roberts, Werngawr, Morfydd Edwards, Pantclyd, Evan Jones, Traian, Martin Williams, Penrhiw (Cadeirydd), H. R. Jones, Llysmadian, John Glynmor James, Hywel Dda (Trysorydd), Catherine Williams, Pantypanel, Lloyd Davies, Bod Eiddon, Mary Williams, Coed Mwsoglog, Owen Gwilym Griffith, Forest Lodge, Hughie Williams, Pantypanel, Thomas Edwards, Cae Coch, Owen Owens, Troed-y-rhiw, Fred Selleck, Rhes Meirion, Ieuan Evans, Trem Aran (Ysgrifennydd)